Nodweddion openstreetmap.cymru ychwanegol

Ry ni wedi ychwanegu ambell i nodwedd (wel, Carl sydd wedi llwyddo i wneud hynny i ddweud y gwir).

Gallwch greu dolen i le arbennig yng Nghymru. Dyma Aberystwyth.

Yn ogystal, fe allwch osod y map ar eich gwefan eich hun.

A gallwch roi pin ar fap sydd ar wefan allanol.

Dyma fap sy’n arddangos gweithgaredd nesaf ni Gweithdy Sefydliad Data Caerdydd.

Cymru ar y Map

Rydym ni’n gam yn nes at wrando ar SatNav yn siarad Cymraeg yma yn Sefydliad Data Agored Caerdydd, gan ein bod yn gweithio ar fenter arloesol arlein i boblogi map o Gymru gydag enwau Cymraeg y genedl.

Mae’r map newydd hwn bellach i’w weld ar-lein ar wefan openstreetmap.cymru diolch i ddyfeisgarwch dylunydd gwe ein prosiect #MapioCymru sef Carl Morris.  Ewch i weld y map cyffrous hwn nawr, neu’r ennyd gewch chi gyfle i ymweld gyda’ch ardal chi arlein.

Dangoswyd ein Map i Gymru yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn Hacio’r iaith, lle bu cryn dipyn o gefnogaeth o arbenigwyr y sector technoleg a chyhoeddus a oedd yn bresennol, sy’n argoeli’n dda iawn o ran gwaddol i’r prosiect.

Camau nesaf y prosiect cynhenid hwn bydd i ni ennyn pobl Cymru i roi eu ‘milltir sgwâr’ ar y map er mwyn sicrhau bod enwau Cymraeg o safon yn gallu ymddangos.  Mae hyn yn dilyn cyfnod o boeni’n arw am sefydlogrwydd ein henwau hynafol – sydd eisoes wedi cael ei amlygu yn ein cyfryngau traddodiadol a thorfol.

Os oes gennych chi gyfrif Google neu facebook, mae’n hawdd cofrestru gyda openstreetmap.org er mwyn brwydro dros yr iath ar y ffin newydd mwyaf newydd; sef technoleg!

Mae’r prosiect hwn wedi ei gefnogi gan grant o £19,900 gan gronfa #Cymraeg2050 Llywodraeth Cymru sydd yn hybu’r defnydd o Gymraeg yn y gymuned yn ogystal â hyrwyddo technoleg sy’n cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg.

Dwedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Eluned Morgan;

“Rydyn ni am weld y Gymraeg yn dod yn rhan arferol o fywyd bob dydd fel bod siaradwyr o bob lefel yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol.

Fe fydd arddangos enwau lleoedd yn Gymraeg yn galluogi siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio technoleg mapio yn eu hiaith eu hunain, ac i osod map gyda digwyddiadau codi arian neu gyngherddau ar eu gwefan eu hunain, gydag enwau llefydd yn Gymraeg.

Mae #MapioCymru yn un o nifer o brosiectau Cymraeg 2050 a fydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, boed wyneb yn wyneb yn y gymuned ac yn y gweithle neu drwy lwyfannau digidol.”

Er mwyn darganfod mwy am sut i gyfrannu i’n map Cymraeg arlein, cysylltwch gyda rheolwr y prosiect:

Wyn Williams @dailingual

mapiocymru@dailingual.com

ffôn Caerdydd 707 469

Map i Gymru : adeiladu map agored yn Gymraeg

Drafft o Fap i Gymru!

BLOG GAN CARL MORRIS

Cymrwch gip ar y map yma o Gymru, ble mae’r enwau lleoedd i’w gweld yn Gymraeg: https://openstreetmap.cymru

Mae nifer o bobl heb weld enwau megis Aberteifi, Treffynnon neu Aberdaugleddau ar fap arlein – neu’n wir unrhyw fap…

“Nid yw Hon ar fap” fel meddai T.H. Parry-Williams yn ei gerdd enwog.

Defnyddiwyd yr enwau yma am sawl cenhedlaeth hyd heddiw, yn nhrafodaethau, yn y cyfryngau ac ar arwyddion ffyrdd wrth gwrs. Mae gan Wicipedia Cymraeg erthyglau sy’n cyfeirio at yr enwau Cymraeg yma.

Serch hynny, nid yw’r enwau cyfarwydd yma fel arfer yn cael eu cynnig nac eu cydnabod gan yr enwau mawr yn y byd mapio rhyngwladol.

Er mwyn adeiladu map o Gymru yn iaith Cymru rydym wedi tynnu data agored trwyddedig, meddalwedd arbennig a dogfennaeth arbenigol oddi ar OpenStreetMap. Mae hyn yn dilyn gwaith gan gryn dipyn o gyfranogwyr ledled y byd, ac felly mae ein dyled ni yn fawr iddynt. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i Uned Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu’r gwaith cynnar yma sydd ar gychwyn gennym.

Adeiladu ar y map

Mae’r map hwn ar weinydd prototeip sydd yn rhoi cyfle i chi roi eich bysedd – neu eich llygoden – ar y tir ac i dynnu i mewn ac allan yn ôl yr angen. Dw i wrthi yn datblygu’r prosiect yma ar-lein ac i ddweud y gwir dw i’n hynod hapus gyda’r hyn rydym ni wedi medru cyflawni hyd yn hyn.

Serch hynny, efallai welwch chi ambell i bwbach neu nam wrth imi ddatblygu’r wefan ymhellach, sydd yn parhau i arddangos ambell i ardal sydd angen datblygu pellach.

Yn wir, wrth imi ysgrifennu’r blog hwn, rydym newydd dderbyn pecyn o wybodaeth werthfawr tu hwnt gan Swyddfa Comisiynydd Y Gymraeg sy’n ffrwyth blynyddoedd lawer o waith.  Dyma enwau lleoedd dros Gymru gyfan; o’r dinasoedd mwyaf hyd at y pentrefi lleiaf oll, ac sydd wedi ei drwyddedi trwy Drwydded Agored y Llywodraeth.

Mi fyddaf yn cyflwyno nodwedd arall yn fuan iawn, sef y gallu i ddefnyddio a mewnosod y map hwn fel rhan o unrhyw wefan.

Gwella’r data

Dyma’r adran i chi petaech am wybod mwy am sut i wella’r wybodaeth sydd gennym ni ar ein map OSM ni – Map i Gymru – hyd yma.

Mae’r data newydd yn cael ei fewnforio bob nos. Er mwyn cyflymu’r broses,  mae ambell i newid bach ar wedd y map ei hun hefyd yn cael ei wneud o flaen llaw.

Buasai gan y gronfa ddata berffaith tag name:cy ar gyfer pob eitem yn barod.  Ni bell ffordd o fod yna eto!

Yn y cyfamser mae’r system dw i wedi datblygu yn defnyddio’r tagiau name:cy ac ambell i tag ‘name‘ hefyd (sef yr hyn sy’n dynodi beth mae’r cyfranwyr hyd yma wedi ystyried i fod yn ‘enw cyffredinol’).

name:cy sydd efo’r flaenoriaeth.  Petaech am ychwanegu enw yn Gymraeg, golygwch y map ar osm.org ac ychwanegwch tag name:cy wedi i chi gofrestru fel defnyddiwr newydd (os nad ydych chi wedi cofrestru eto).  O gymryd bod eich gwaith golygu yn cael ei dderbyn gan y gymuned, bydd y gwaith hwn yn diweddaru ein map Cymraeg ni dros nos.

Diolch i’r drefn mae nifer o enwau :cy yn bodoli yn barod.

Yr her yw, bod rhai o’r enwau buasem am ddefnyddio dim ond ar gael wrth ddefnyddio’r tag name. Hynny yw, mae gan nifer o lefydd sydd yn berchen ar enw Cymraeg yn barod [megis Llanelli] ddim o reidrwydd yn eistedd yn y set data name:cy. Nid yw cyfranogwyr traddodiadol OSM wedi mynd i’r drafferth o ychwanegu’r tag:cy i enwau sydd yn Gymraeg megis Morfa Nefyn, Abersoch, a’r nifer fawr o lefydd tebyg. Dyna pham rydym ni eich angen chi!

Ceisiais baratoi gwahanol fathau o’r map gan ddefnyddio gwahanol setiau data. Mae caniatáu’r holl enwau yn difetha’r ddelwedd o gael map Cymraeg. Ond wrth gael gwared ar y tag name…wel roedd hanner y llefydd wedi diflannu’n llwyr!

Felly dw i wedi gosod system er mwyn defnyddio name ar gyfer y mathau yma o lefydd: (Er gwybodaeth, dw i wedi rhoi enw y maes ar system osm.org mewn cromfachau.)

  • annedd/ adeilad unigryw (isolated_dwelling)
  • fferm (farm)
  • sgwâr (square)
  • pentrefan (hamlet)
  • cymdogaeth (neighbourhood)
  • pentref (village)
  • tref (town)
  • ynys (island)
  • ardal leol (locality)

Ar gyfer elfennau arall rydw i hefyd wedi defnyddio rhestr wen a rhestr ddu; e.e. mae ‘Ysgol’, ‘Capel’ ac ‘Eglwys’ ar y rhestr wen: bydd y map angen y rheiny!

Yn naturiol, bydd grym name:cy yn disodli pob ystyriaeth uchod.  Ychwanegwch enwau Cymraeg ar y tagiau name:cy pan welwch chi ddiffyg hynny. A gyda llaw bydd eich mewnbwn ar gael ar draws y byd ar yr holl fapiau sy’n defnyddio OpenStreetMap.

Defnydd ac apiau yn y dyfodol agos

Mae’r hyn welwch chi nawr dim ond yn un ap posib sy’n defnyddio’r data Cymraeg er mwyn arddangos map o Gymru.

Bydd gwefannau ac apiau eraill yn gallu gweithio gyda’r gweinydd map mewn sawl ffordd.

Mae creu map o’r fath yn cynnig posibiliadau cyffrous ym mhob math o feysydd;

  • dysgu
  • fforio
  • chwarae
  • ymchwil
  • cyfathrebu
  • mordwyo [bydd yn ein harwain ni i un cyfeiriad yn arbennig o bosib…cadwch i ddarllen ein blog am ddiweddariadau cyson!]

Map o Gymru (gan fwyaf) yn Gymraeg

Nid yw’r data yn hollol gywir na chyflawn eto! Cyfrannwch i’r diweddariad nesaf. Data ar y map Ⓗ Cyfranwyr OpenStreetMap

Cyhoeddwn ein bod wedi cwblhau rhan gyntaf ein prosiect ‘Map i Gymru‘ : os ewch chi i openstreetmap.cymru fe welwch chi fap o Gymru gyda enwau lleoedd yn Gymraeg (gan fwyaf). 

Mae’r map hwn yn tynnu data oddi wrth gronfa ddata byd-eang OpenStreetMap ac yna’n edrych am bethau (megis ffyrdd, pentrefi, adeiladau a.y.y.b) sydd efo enw Cymraeg [wedi’i ddynodi yno gan enw: cy].  Gan lawer o’r nodweddion eisoes enw Cymraeg wedi ei ddynodi, ond yn anffodus mae yna lawer yn fwy sydd heb gael eu nodi yn Gymraeg eto.

Ar gyfer y nodweddion nad sydd yn berchen ar enw Cymraeg (eto!), naill ai nad yw’r enw yn ymddangos o gwbl (sef y rheswm bod y map yn edrych braidd yn wag ar hyn o bryd) neu ddefnyddiwn yr enw sydd eisoes wedi ei ddynodi.  Efallai bod yr enw yna’n Saesneg, efallai bod yr enw’n Gymraeg – neu ambell waith mae’r enw yn gyfredol yn y ddwy iaith fel sydd yn digwydd yn Aberystwyth!

Gallwn ddatgan hefyd bod y rheolau rydym yn dilyn braidd yn gymhleth yn hyn o beth, felly rydym wedi gofyn i’n datblygwr Carl Morris i esbonio hynny’n fwy trylwyr yn ei flogiad ef – a fydd yn ymddangos ar y wefan yma cyn bo hir gobeithio.

Fodd bynnag, peidiwch ag oedi, edrychwch ar y map yma nawr.

Fe fydd unrhyw olygu o gronfa ddata fyd-eang openstreetmap.org yn ymddangos ar ein gwefan openstreetmap.cymru ni y diwrnod canlynol.

Felly, pe baech wedi arfer gyda OSM ac yn wir am ychwanegu mwy o enwau Cymraeg gyda’r tag  enw:cy yna cewch amdani os gwelwch yn dda! Fe fyddwn ni yn parhau gyda’r gwaith o ddarparu cefnogaeth i bobl Cymru sydd am gyfranogi i’r map dros yr wythnosau nesaf, felly dilynwch y wefan yma er mwyn cofrestru i dderbyn diweddariadau ebyst.

Diweddariad #MapioCymru

Rydym eisoes wedi cyhoeddi ar y blog yma ein bod wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru er mwyn cynhyrchu rhyngwyneb Cymraeg ar-lein o OSM.

Adroddiad Cynnydd Sefydliad Data Caerdydd

Rydym yn falch iawn i gyhoeddi ein bod wedi penodi datblygwr ar gyfer ein prosiect #MapioCymru: mae Carl Morris wedi cytuno i ddatblygu ein peilot o ryngwyneb Cymraeg ar gyfer OSM.

Yn ddiweddar, mae Carl wedi dechrau gweithio’n llawrydd o dan ei enw morris.cymru ar ôl bod yn un hanner y bartneriaeth lwyddiannus Native HQ. Ganddo gefnfor o brofiad yn y Gymraeg, ac mae’n awyddus i droi ei golygon ar y dirwedd o fapio Cymru yn 2018!

Croeso i’r tîm Carl. : )

TARGED

Cyfarfod Comisiynydd y Gymraeg…

  • Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn casglu a safoni enwau lleodd.

Yn unol â’n targedau Llywodraeth Cymru, cyn gynted y cawsom y newyddion am y dyfarniad grant ym mis Hydref fe wnaethom trefnu cyfarfod yn swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, sefydliad sydd wedi ysbrydoli llawer o arloesedd ieithyddol.

Rydym hefyd mewn cysylltiad gyda’r Llyfrgell Genedlaethol – cartref Cynefin – sydd yn meddu ar unigolion sydd eisoes yn aelodau o’r gymuned GovCamp Cymru ac sydd erbyn hyn yn gofalu am waddol y prosiect yna. Yn anorfod felly, roedd angen i’n gwaith ymchwil sicrhau beth sydd eisoes ar gael fel nad oes unrhyw ddyblygu diangen o ddata.

BYDDWN HEFYD…

Yn ystod mis Ionawr, byddwn yn:
– cyhoeddi ein cynllun peilot rhyngwyneb iaith Gymraeg
-mynychu haciaith ac annog datblygwyr i wneud defnydd o OSM
-dechrau annog sefydliadau a chymunedau yng Nghymru i wneud defnydd o’r llwyfan.

Mae’n amser #MapioCymru!

Mae Sefydliad Data Caerdydd yn llwyr ymroddedig i Gymru gyda #miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

Lletya Cyfoedion : Safbwynt Cymreig

Gan Ben Proctor o dîm craidd Sefydliad Data Agored ODI Caerdydd

O Lundain i Gaerdydd

Mae ein cydweithwyr yn Sefyfliad Data Agored yr ODI yn Llundain yn archwilio sut y gellid defnyddio data er mwyn cynorthwyo penderfyniadau gwell yn y farchnad lletya cyfoedion (megis Couchsurfing, Gay HomeStays neu Airbnb). Gofynnwyd inni lywio gweithdy yng Nghaerdydd er mwyn cyfarfod gydag amrywiaeth o randdeiliaid. Cynhaliwyd gweithdai tebyg hefyd yn Llundain a Dundee. Cawsom gynrychiolaeth dda o wahanol adrannau o Lywodraeth Cymru ynghyd â phobl o Lywodraeth Leol, y sector cymunedol a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Yn ogystal, cawsom gwmni dau o bobl sydd eisoes yn hysbysebu llety yng Nghaerdydd ar lwyfannau tebyg arlein.   Roedd tîm Sefydliad Data Agored ODI eisoes wedi cynnal ymchwil agoriadol a chyflwynwyd eu canfyddiadau cychwynnol. Mae eu sleidiau sy’n crynhoi’r canfyddiadau yma sydd ar gael yma (yn Saesneg yn unig yn anfoddus ar hyn o bryd.)  

Yr hyn a ddysgom ni

Mae’n eglur bod yna ddiffyg data sy’n gysylltiedig â’r sector hwn yng Nghymru. Waeth sut ydych yn ceisio esbonio problemau neu gyfleoedd, mae absenoldeb neu brinder y data sydd ar gael yn dod i’r amlwg tro ar ôl tro.  I bob pwrpas, mae hyn yn cyfyngu i ba raddau y gall sgyrsiau ymdreiddio i ddadansoddi’r sefyllfa sydd ohoni oherwydd mae’n dod yn amlwg yn go gyflym bod pawb yn dyfalu:  ‘oes gwahaniaethu ar lwyfannau P2P?’ [neu gymheriaid i gymheriaid yn Gymraeg] – mae’n aneglur. ‘Ydy llwyfannau P2P yn disodli neu ategu darparwyr llety atraddodiadol?’ Eto, mae’n aneglur. Er bod yna gydnabyddiaeth i ryw raddau yn ein gweithdy yng Nghaerdydd o’r angen i safoni data, roedd yna hefyd bryder y gallai gormod o safoni leihau gwerth y data mewn cyd-destunau lleol. Roedd y gwesteiwyr yn ein gweithdy yn falch o ardal Caerdydd ac ystyried eu hunain wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn eu cymunedau lleol. Ystyria nhw eu gwasanaethau llety ‘cymheiriaid i gymheiriaid’ fel modd i ddathlu a hyrwyddo cymunedau go iawn i dwristiaid ac ymwelwyr. Awgrymwyd gan gyfranogwyr ein gweithdy bod gan ddarparu lletya cyfoedion y potensial i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol ac economaidd mewn ffyrdd newydd: o ddarparu llety dros dro ar gyfer teuluoedd digartref i gynnig y cyfle i dwristiaid brofi diwylliant Cymru mewn modd hollol uniongyrchol. O bosib, mae hwn yn faes cyffrous iawn o ar gyfer archwiliadau pellach.

Diolch yn fawr

Diolch i bawb a ddaeth draw ar fore Llun digon gwlyb yng Nghaerdydd er mwyn trafod y materion uchod. Diolch hefyd i Tech Tramshed. Roedd eich lleoliad yn berffaith ar gyfer y gweithdy hwn.   Mae ein cydweithwyr yn Llundain yn parhau eu hymchwil.  Fe fyddant yn profi dulliau newydd o ddefnyddio data er mwyn ceisio gwella’r maes. Pe baech am wybod mwy, byddant wrth eu bodd i glywed gennych Dyma’r gwefan priodol  https://theodi.org/tags/peer-to-peer Neu ebostiwch myriam.wiesenfeld@theodi.org   

 

Map i Gymru

A Map of part of South Wales
© OpenStreetMap contributors

Mae’n amser i ddathlu yma yn Sefydliad Data Agored Caerdydd. Rydym yn falch i gyhoeddi ein bod wedi derbyn grant Cymraeg 2050 gan Lywodraeth Cymru. Fe fydd y grant yn ein galluogi ni i greu tudalen iaith Gymraeg OpenStreetMap ac i gefnogi cymunedau i wella’r data am Gymru sydd ar gael yno.

Gellid disgrifio OpenStreetMap megis Wicipedia byd y mapiau; mae’n gronfa ddata byd-eang gall unrhywun is-olygu.  Mae’r gronfa ddata craidd yn cynnwys llawer o wybodaeth nad sydd o reidrwydd ar gael ar fapiau gan amlaf; o’r herwydd bod mapiau wedi eu datblygu ar gyfer cynulleidfa neu bwrpas arbennig.  Er enghraifft, mae http://opencyclemap.org i bobl sy’n mwynhau seiclo tra bod http://openstreetmap.de ar gyfer pobl sydd yn meddu ar Almaeneg.

Mae gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru eisoes wedi ychwanegu’r enwau Cymraeg ar gyfer nifer o leoliadau i mewn i OSM, ond nid ydynt o reidrwydd yn ymddangos ar y brif haenen.  Felly, un o gamau cyntaf ein prosiect bydd creu map iaith Gymraeg wedi ei seilio ar waith y gwirfoddolwyr yma.

Byddwn hefyd am weithio gyda sefydliadau eraill yng Nghymru er mwyn sicrhau bod eu data daearyddol nhw am leoliadau yn gallu cael eu hychwanegu at y wybodaeth, ble bo hynny’n bosib.

Wedi hynny, gobeithiwn ennyn cefnogaeth ym mhob cwr o Gymru – ac ar draws y byd i gyd yn grwn – i wella’r wybodaeth mapio sydd ar gael am Gymru ac yn Gymraeg ar OSM. Gobeithiwn fydd y prosiect hwn yn darparu:

  • Map manwl o’r ansawdd gorau posib o Gymru yn Gymraeg.
  • Brwdfrydedd ar draws cymunedau Cymraeg i gyfranogi i OSM yn Gymraeg, ac i wobrwyo eu hymdrechion ar fap Cymraeg arlein o Gymru.
  • Mwy o sefydliadau a grwpiau yng Nghymru yn defnyddio OSM i ddarparu gwasanaethau mapio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gobeithiwn gynnwys cymaint â phosib o bobl yn y prosiect hwn.  Os hoffech chi wybod mwy ac i dderbyn diweddariadau cyson: ymunwch gyda Sefydliad Data Caerdydd trwy ein rhestr ebost, dilynwch ni ar Twitter, neu anfonwch ebost i arweinydd y prosiect : david.wyn@dailingual.cymru.

Dewch i weithio gyda’r werin datas yng Nghaerdydd!

Mae ODI-Caerdydd yn gweithio i gryfhau ecosystemau data ledled Cymru.  Un peth rym wedi clywed tro ar ôl tro gan ein cyfranogwyr yw eu bod yn awyddus i gwrdd gyda phobl data eraill.  Ond, rydyn ni oll yn bobl brysur sy’n gorfod ennill bywoliaeth, ac mae yna fwyafswm i sawl cwrdd gallwch fynychu mewn wythnos.

Felly, dyma ein cynllun…

Fe wnawn ni gyd dod ynghyd unwaith bob mis a gwneud gwaith go iawn.

Diolch i’n ffrindiau hoff yn Indycube Trade St gennym gyfle i weithio ar y cyd ger Gorsaf Ganolog Caerdydd.

Am ddim!

Felly, ar Ddydd Mawrth Fedi 26ain dewch â’ch gliniadur (neu bapur a phen, er bod e’n fis  Eisteddfodol ni fyddwn ni’n eich barnu!) a gwnewch gymaint o waith a mynnwch chi. Nid rhwydweithio mohono, dyma gydweithio hamddenol. Ni fydd unrhywun yn dosbarthu eu cardiau busnes na chwaith yn adrodd eu cyflwyniad 60 eiliad. Nid oes rhaid i chi golli amser gwaith, yn syml iawn mi fyddwch chi yn dod draw i weithio efo ni am ddiwrnod.

Mae’r diwifr yn gadarn, mae’r cadeiriau a desgiau yn gyfforddus ac mae’r coffi mor dda efallai bydd yn destun sgwrs gyda’ch cyd-weithwyr ar y diwrnod.

Pwy a ŵyr, gall y sgwrs honno arwain at gydweithio pellach bydd yn newid y byd. Ac efallai gwneith les i chi weithio mewn lleoliad hollol wahanol am ddiwrnod.  Efallai bydd rhywun yno yn gallu dangos i chi sut wnaethoch chi’r peth andros o glyfar yna gyda Tableau ar hap nad ydych chi wedi bod yn rhy sicr sut i ailadrodd ers ‘ny… Nid oes rhaid i chi weithio gyda [neu hyd yn oed becso am] ‘data agored’: mae unrhyw fath o ddata yn iawn.

Gallech fod yn ddatblygwr, dylunydd, gwyddonydd data neu berson polisi brwdfrydig. Gallwch weithio ar liwt eich hun neu’r Llywodraeth, neu Y Dyn ei hun, nid yw hynny’n bwysig i ni. Mond eich bod wrth eich bodd gyda data.

Felly dyna’n cysyniad:

  • mae’n hamddenol
  • mae’n waith
  • mae’n ddiwrnod i’r brenin i bobl y data

Felly, pe bai hyn oll i glywed i’ch dant chi, yna dewch draw i’n Jeli*  Fedi 26ain (rydym hefyd am gynllunio digwyddiadau Jeli ODI-Caerdydd ar  Hydref 24ain.)

Does dim angen archebu o flaen llaw ond buasai hynny yn ein caniatau ni i wybod pwy sy’n gallu dod, ac yn ein galluogi ni i’ch atgoffa chi yn eich tro. Pe bai’r arbrawf hwn yn llwyddo, hoffwn gyflawni’r un dasg yng Ngogledd – a Gorllewin – Cymru os yn bosib.

Mae ein ffrindiau hoff yn IndyCube yn frwd i hwyluso hynny hefyd; diolch IndyCube!

*Ie, ‘Jelly’ yn yr iaith fain, sef cyfeiriad at y math yma o weithio ar y cyd hamddenol.  Enw digon od, ond dyna’r enw heb os; gweler http://www.uk-jelly.org.uk/ .

Pa mor hawdd yw hi i bleidleiswyr yng Nghymru i ddarganfod ymhle y dylen nhw bleidleisio?

Gorsaf bleidleisio ward Canol Aberystwyth by Dogfael used under CC BY-NC-ND 2.0

Ble ydw i fod pleidleisio?

Mae menter gymdeithasol fychan o’r enw Democracy Club yn ceisio datblygu ystod o adnoddau i wneud hi’n haws i ddinasyddion y Deyrnas Gyfunol ddefnyddio eu pleidlais. Mae un o’r adnoddau yma yn cynnig datrysiad i’r uchod – un o’r ymadroddion sy’n cael ei nodi fwyaf ar Google ar ddiwrnod unrhyw etholiad Prydeinig mae’n debyg – sef ‘ble ydw i fod pleidleisio‘. Nodwch eich cod post ac fe fydd yn dangos pa orsaf pleidleisio y dylech chi fynychu. Ganddynt adnodd cain, ond maent angen gwybod pa gyfeiriadau stryd sy’n pleidleisio ym mha orsaf bleidleisio. Yng Nghymru, y cynghorau lleol sy’n berchen ar y wybodaeth hon felly fe ofynnodd Democracy Club yr holl gynghorau Cymreig lleol am y data hwn mewn da bryd i’r Etholiad Cyffredinol yn 2017.

 Pa mor dda oedd ymateb awdurdodau lleol Cymru?

Darparwyd data gan bedwar ar ddeg cyngor (wedi eu dynodi yn wyrdd ar y map) tra gwrthodwyd y cais gan wyth cyngor (wedi’u dynodi yn goch ar y map).  Mae’r un data ar y tabl isod.  Buodd yna broblemau gyda data Cyngor Dinas Caerdydd ac ambell i ardal benodol o fewn cynghorau arall.
 
Trwyddi draw, o’r 92,000 ymholiad arlein a nodwyd gan Democracy Club am ‘ble i bleidleisio’ yng Nghymru, atebwyd 51,000 o bobl gyda’r orsaf bleidleisio agosaf; sydd yn gadarnhaol i’r 51,000 o bleidleiswyr yna ond yn ganlyniad siomedig i’r 41,000 o bleidleiswyr posib na chafodd ateb.
 

Prawf Litmws

Mae hyn yn brawf Litmws da i archwilio agwedd awdurdodau lleol at ddata agored achos:

  • Mae Democracy Club angen set o ddata penodol, maent yn deall y data ac yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gan staff y cyngor (hynny yw, maent yn gallu gwneud pethau’n hawdd i’r awdurdod lleol)
  • os mae’r cyngor yn darparu’r data fe fydd o fudd uniongyrchol i’w dinasyddion
  • mae’n sicr bod gan y cyngor y data (yn wir mae’r data yma’n angenrheidiol er mwyn iddynt allu danfon allan y cardiau pleidleisio sy’n cael eu hepgor gan gymaint o bobl cyn diwrnod y bleidlais)

Felly os na bod modd i’r cynghorau rhoi’r data yma i’r Democracy Club, mae’n arddangos eu bod yn bell o ddeall grym rhannu setiau o ddata.  Gennym ddiddordeb mewn datblygu system sgorio awdurdodau lleol Cymreig yn ôl eu hagwedd tuag at ddata agored.  A ddylem ni gynnwys rhannu’r data yma gyda Democracy Club yn y sgoriau yma tybed?

Y data mewn tabl

Enw’r Cyngor Nifer y chwiliadau Y nifer ddaeth o hyd i’r orsaf bleidleisio Coch neu wyrdd ar y map
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 1719 1563 Gwyrdd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 3698 0 Coch
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 4716 0 Coch
Cyngor Sir Gaerfyrddin 4074 0 Coch
Cyngor Sir Ceredigion 1935 1848 Gwyrdd
Cyngor Dinas Caerdydd 18122 11714 Gwyrdd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2732 2730 Gwyrdd
Cyngor Sir Ddinbych 2447 2392 Gwyrdd
Cyngor Sir Y Fflint 4503 0 Coch
Cyngor Gwynedd 2336 2312 Gwyrdd
Cyngor Sir Ynys Môn 1679 0 Coch
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 1485 1477 Gwyrdd
Cyngor Sir Fynwy 2101 2101 Gwyrdd
Cyngor Castell-Nedd Port Talbot 4771 4740 Gwyrdd
Cyngor Dinas Casnewydd 6306 0 Coch
Cyngor Sir Benfro 1887 1887 Gwyrdd
Cyngor Sir Powys 1789 0 Coch
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 7773 0 Coch
Cyngor Dinas a Sir Abertawe 8851 8718 Gwyrdd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen 2894 2818 Gwyrdd
Cyngor Bro Morgannwg 3351 3350 Gwyrdd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam 3259 3237 Gwyrdd

Dylai'r Cymry elwa o Ddata Agored system caffael Cymreig

Colour photo of a fruit and veg stall. To the right a woman is examining the produce.
Llun llysiau a ffrwythau ‘Fruit & Veg’ gan Nanimo

Gan Gymru Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol sydd yn bodoli er mwyn:

“caniatai’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gydweithio wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau”.

Ar hyn o bryd, mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn ceisio ymgysylltu gyda’r cyflenwyr ynglŷn â’r fframwaith newydd i wasanaethau digidol.  O ystyried bod gan y Deyrnas Gyfunol eisoes fframwaith gogyfer â gwasanaethau digidol mae’n ansicr a yw hyn yn ddefnydd da o amser ac adnoddau neu beidio. Mae’r Gwasanaeth Caffael o’r farn nad yw fframwaith y Deyrnas Gyfunol yn ymrafael efo materion ieithyddol a nifer o nodweddion unigryw Cymru.

Yn ôl ei Chynllun Data Agored mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr ymroi i ddata agored.  Er hyn, hyd y gwelwn ni, nid oes gan y Gwasanaeth Caffael unrhyw gynllun data agored, a nid yw gwaith y fframwaith digidol yn ystyried cynllun data agored y llywodraeth o gwbl. Mae hyn yn siom oherwydd bod data agored a chaffael yn bartneriaid perffaith. Gall data agored yrru effeithlonrwydd a thryloywder mewn prosesau caffael, yn ogystal ag ennyn manteision ehangach. Mi ddylai proses caffael addas ceisio ymdrin â data agored yn y meysydd canlynol:

  • perfformiad yn ystod cytundebau
    Dylai bod hi’n ofynnol i gyflenwyr cyhoeddi eu perfformiad fel data agored, ac yn ogystal dylid cyhoeddi perfformiad y cyflenwyr blaenorol fel data agored hefyd. Buasai hyn yn helpu cwsmeriaid a chyflenwyr i ddeall pa rannau o’r cytundeb sy’n heriol ac – dros amser – arwain at well perfformiad.
  • data gweinyddol
    Er mwyn darparu gwasanaeth, mae’n rhaid casglu llawer o ddata i’w ddefnyddio. Mae’r data hwn fel arfer wedi ei gloi mewn systemau cyflenwyr – ond pe bai yn cael ei gyhoeddi fel data agored, buasai yna werth economaidd uchel iddo.
  • data gweinyddol
    Er mwyn darparu gwasanaeth, efallai bydd angen i gyflenwyr casglu data er gwybodaeth: e.e. i ddarparu cymorth buasai angen i gyflenwr deall ble mae adeiladau’r awdurdodau lleol. Yn ddelfrydol, dylai cyflenwyr defnyddio ffynonellau agored presennol y data, ac yn sicr dylid cyhoeddi unrhyw ddata tebyg maent yn creu yn ystod y cytundeb.
  • data isadeiledd
    Prif bwrpas nifer o’r cytundebau a gosodir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru yw creu wybodaeth neu ddata. Dylai bod y setiau data hyn yn cael eu cyhoeddi yn agored i safon uchel yn ddiofyn.

Mae ein cyd-aelodau ym mhencadlys yr ODI wedi cyhoeddi canllaw i gaffael a data agored at sylw cyrff cyhoeddus yn Lloegr, ac mae’r egwyddorion i’w gweld yno yn wir am Gymru hefyd.

Mewn gwirionedd nid oes angen yr angen y drafodaeth hon arnom yng Nghymru. Dylem fod yn siarad am ba mor gyflym y gallwn symud y data agored i statws pum seren. Dylem siarad am beth mae data agored yn ei ddatgelu am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dylem ddefnyddio data agored i’n helpu i ddeall yr effaith ar les cenedlaethau’r dyfodol.

Gobeithio y gallwn ni ddechrau mwynhau’r trafodaethau yna cyn hir.